
MAE UNDEB Myfyrwyr Aberystwyth yn denu cannoedd o bobl i weld pwy fydd yn ennill Gwobrau’r Selar, sy’n cael eu rhoi i’r grwpiau mwyaf cyffrous yn y sin gerddoriaeth Gymraeg.
Bydd modd gweld holl uchafbwyntiau’r noson mewn rhaglen arbennig, Ochr 1: Gwobrau’r Selar, nos Sadwrn, 25 Chwefror ar S4C.
Prif leisydd y band HMS Morris, Heledd Mair Watkins, fydd yn cyflwyno’r rhaglen ac mae hi’n edrych ymlaen at y noson.
“Ro’n i yn y gwobrau’r llynedd ac roedd hi’n noson grêt,” meddai Heledd, sydd o Lanymddyfri, Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol. “Mae cynnal rhywbeth fel Gwobrau’r Selar yn bwysig gan ei fod e’n rhoi rhywbeth i gerddorion Cymru weithio tuag ato. Mae angen yr elfen yna o gystadleuaeth i helpu pobl i ‘sgwennu pethau o safon.”
Dyma’r bumed flwyddyn i gylchgrawn Y Selar gynnal digwyddiad i ddathlu llwyddiant cerddoriaeth gyfoes Gymraeg, ac mae’r noson wedi hen ennill ei phlwyf fel un o brif nosweithiau’r sin gerddoriaeth gyfoes gyda dros 1000 aelod o’r cyhoedd yn bwrw pleidlais dros y 12 categori eleni.
“Mae cymaint o fandiau da mas ‘na ar hyn o bryd,” ychwanega Heledd. “Fi ‘di gweld CaStLeS lot dros y flwyddyn ddiwethaf ac maen nhw’n grêt.”
“Ond be’ sy’n dda am y lein-yp eleni yw’r cyfuniad rhwng lot o fandiau newydd fel Ffracas a rhai sydd wedi bod o gwmpas ers blynyddoedd fel Cowbois Rhos Botwnnog. Mae’n gyfle da i bobl ifanc weld sut mae’r rhai mwy profiadol a phroffesiynol yn gweithio.”
Mae band Heledd hefyd yn perfformio – ynghyd â Candelas, Chroma, Gwilym Bowen Rhys, Capt Smith, Fleur de Lys ac Alffa – ond ydy hi’n bryderus am orfod perfformio a chyflwyno ar yr un noson?
“Bydd e’n oce fi’n gobeithio,” meddai. “Ond ‘s’dim ond un ffordd i ffeindio mas…!”
Add Comment