MAE’R actor a’r digrifwr Iwan John yn adnabyddus am ei bersonoliaeth bywiog, bob amser yn cracio jôcs a thynnu coes. Ond yn Drych: Aros am Aren cawn wybod am y gwirionedd tu ôl i’w wên.
Gydag un aren wedi marw a’r llall yn dirywio’n gyflym, bydd Iwan o Bridell, Sir Benfro, yn rhoi disgrifiad agored ac emosiynol o sut beth yw aros am drawsblaniad yn y rhaglen ddogfen hon ar S4C am 9:00 nos Sul 10 Tachwedd.
Dywedodd Iwan: “Ti ddim yn gwybod sut deimlad yw bod ar y transplant list nes iddo ddigwydd i ti. Rydw i’n checio fy ffôn trwy’r amser. Ma’n cymryd drosodd dy fywyd. Y tric yw peidio â gadael iddo, er ei fod yn chwarae ar dy feddwl trwy’r amser.
“Dwi’n cofio’r diwrnod nes i ffeindio mas. O ni wedi mynd trwy fywyd yn meddwl fy mod i’n invincible. Yna, yn sydyn iawn mae rhywun yn dweud, un dydd bydd angen transplant arna ti.”
Roedd hwn yn gyfnod arwyddocaol i Iwan wrth iddo gwrdd â’i wraig, Non Parry, aelod o’r grŵp pop Eden tua’r un amser. Daeth hefyd i adnabod ffrind Non, y cyfansoddwr Steffan Rhys Williams. Dros yr ugain mlynedd nesaf, cafodd Iwan iechyd cymharol dda a pharhaodd y cyfeillgarwch.gyda Steffan
Pan ddirywiodd iechyd Iwan roedd na frys i ddod o hyd i rywun fyddai’n fodlon rhoi aren iddo. Gyda rhestrau aros am drawsblaniad yn 18 mis ar gyfartaledd, roedd y straen meddyliol a chorfforol yn amlwg ar Iwan wrth iddo siarad yn agored am ei obeithion a’i bryderon.
Pan ddatgelodd profion nad oedd unrhyw un o deulu Iwan yn addas fel rhoddwyr, camodd Steffan i mewn. Er nad oedd e yn ‘match’ chwaith, mae’n benderfynol o fod yn rhan o system cyfnewid organau er mwyn anrhydeddu ei addewid i’w ffrind.
“Digwyddodd y penderfyniad i helpu yn naturiol dros gyfnod o amser, wrth i mi sylweddoli bod iechyd Iwan yn gwaethygu” meddai Steffan.
“Dywedais wrth Iwan ar noson mas y byddwn yn helpu, dim problem. Nid oedd e’n fy nghredu yn syth gan ei fod yn siwr o fod wedi mynd trwy’r sgwrs yma trwy’r amser. Dim ond un aren sydd isie ife, felly beth am roi’r llall i rywun sydd ei angen? Os nad oes pobl fel fi yn fodlon neud e, does neb yn mynd i helpu.”
Mae Iwan yn disgwyl clywed yn ystod y dyddiau nesaf os yw ei cais i gyfnewid organau yn dod yn realiti ac mi fydd e wedi derbyn y newyddion – un ffordd neu’r llall – erbyn i raglen Aros am Aren cael ei darlledu ar nos Sul, 10 Tachwedd.
Mae Iwan a Steff wedi bod ar daith dyrys ac yn amlwg mae mwy o benderfyniadau anodd i ddod ond hefyd mae gobaith i Iwan, diolch i’r holl ddatblygiadau meddygol sy’n golygu fod trawsblaniad yn fwy posib i fwy o bobl.
Mae’n daith bersonol, anodd ac emosiynol ond mae’r cyfeillgarwch rhwng y ddau ffrind yn amlwg, a hiwmor y ddau yn llwyddo i oleuo sefyllfa dywyll.
Dywedodd Iwan: “Ers cal dialysis, mae mwy o bobl wedi dweud, o, mae o yn serious de. Gei di fy aren i. A dyma pam o ni eisiau gwneud y rhaglen, fel bod pawb yn gwybod ei fod yn bosib, mae angen organau. Plis, os allwch chi roi, rhowch.”
Mae Aros am Aren yn rhan o gyfres newydd DRYCH; cyfres o ddogfennau gafaelgar sy’n adlewyrchu bywyd yng Nghymru heddiw.
Yr actor Iwan John yn aros am aren

Add Comment