MAE Ysgol Rhys Pritchard yn Llanymddyfri wedi dod yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn swyddogol, ar ôl cael cymeradwyaeth gan Gyngor Sir Caerfyrddin.
Rhoddodd cynghorwyr gefnogaeth unfrydol i’r cynlluniau i newid y ddarpariaeth iaith yn yr ysgol lle mae plant bellach yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg hyd at ddiwedd blwyddyn chwech, sef 11 oed.
Caiff Saesneg ei addysgu fel pwnc yn yr ysgol o flwyddyn 3 ymlaen, gyda’r nod o sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn hyderus ddwyieithog erbyn diwedd eu cyfnod yn yr ysgol gynradd.
Mae’r newid hwn yn rhan o Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin ac mae’n unol â pholisïau cenedlaethol i gynyddu nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n dod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Cafodd ymgynghoriad ffurfiol i gasglu adborth ynghylch y newidiadau arfaethedig gefnogaeth helaeth gan ddisgyblion, rhieni, staff ysgol a llywodraethwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg: “Mae wedi bod yn siwrnai hir, ond un rydym wedi’i chymryd yn ofalus. Rydym wedi cyfathrebu ac ymgynghori’n drylwyr.
“Ym mis Medi y llynedd, cyhoeddwyd yr hysbysiad statudol – y cam olaf i rieni, llywodraethwyr a’r gymuned yn gyffredinol ymateb. Mae’r ysgol yn croesawu’r newid hwn – yr athrawon, y llywodraethwyr a’r plant.”
Ychwanegodd: “Rydym yn cyflawni ein nod o Sir Gâr ddwyieithog. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo ein strategaeth ac mae’r targed wedi’i osod o ran cael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae gennym 30 mlynedd i ddyblu nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg – mae’n rhaid i addysg chwarae rhan allweddol er mwyn cyflawni nod hwn.”
Mae’n adeg gyffrous i’r ysgol wrth i ddisgyblion a staff baratoi i symud i adeiladu newydd ar hen safle Ysgol Uwchradd Pantycelyn.
Disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau yn ystod Gwanwyn 2021. Bydd yr adeilad newydd yn darparu mwy o leoedd i ddisgyblion, yn ogystal â Chylch Meithrin integredig, neuadd gymunedol a mannau chwarae amlddefnydd.
Mae’r buddsoddiad £4.3 miliwn wedi’i ariannu’n gyfartal rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru drwy fenter Ysgolion yr 21ain Ganrif.
Add Comment