Home » Gwaith adfer yn dechrau yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin

Gwaith adfer yn dechrau yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin

Mae gwaith adfer mawr yn cael ei wneud yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin – un o drysorau diwylliannol y Sir – gyda buddsoddiad o £1.2 miliwn gan y Cyngor.

Mae hen Balas yr Esgob yn Abergwili yn bwysig iawn yn hanesyddol ac yn bensaernïol ac mae’n cynnwys casgliadau unigryw o gelf a hynafiaethau o orffennol cyfoethog Sir Gaerfyrddin.

Mae atgyweiriadau hanfodol yn cael eu gwneud i’r to a’r simneiau, yn ogystal â’r gwaith cerrig a’r ffenestri dormer i ddiogelu’r amgueddfa rhag dŵr. Gwneir gwaith adfer hefyd i bortsh y brif fynedfa ac i wella mynediad.

Mae’n cyd-fynd â Phrosiect Drws i’r Dyffryn gwerth £2.34 miliwn i adfer a thrawsnewid Parc yr Esgob ac adeiladau allanol yr hen balas i greu caffi a lle dysgu. Bydd llwybrau, waliau a phlanhigion hanesyddol y parc yn cael eu hailosod a’u hatgyweirio a bydd mynediad newydd i’r ardd furiog a’r Ddôl Fawr yn cael ei greu. Mae’r prosiect wedi cael £1.27 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mae’n nodi dechrau taith adfer gyffrous i’r amgueddfa ei hun, gan fod cynlluniau uchelgeisiol i wella’r siop/derbynfa ac i adfer oriel ystafell fwyta’r Esgob, yn amodol ar lwyddo i gael cyllid grant.

Bydd orielau’r amgueddfa ar gau i’r cyhoedd am hyd at 12 mis tra gwneir y gwaith, ond bydd y parc yn parhau i fod ar agor drwy gydol y gwaith. Cynhelir digwyddiadau sydd wedi’u cynllunio hefyd gan gynnwys digwyddiad ‘tu ôl i’r llenni’ yn Llyfrgell yr Esgob bob ail a phedwerydd dydd Mercher o’r mis, gyda sgyrsiau ac uchafbwyntiau o’r casgliad arbennig o lyfrau. Yn ogystal, mae croeso i ymchwilwyr gyflwyno ceisiadau am weld eitemau o gasgliadau’r amgueddfa yn ystod y cyfnod pan fydd ar gau.

Bydd sgaffaldiau’n cael eu codi yr wythnos nesaf (Dydd Llun, 3 Chwefror), a bydd y casgliadau’n cael eu symud i le diogel yn ystod y gwaith adfer.

Mae ystlumod yn byw yn nho’r amgueddfa a chan eu bod yn rhywogaeth a warchodir, bydd peth o’r gwaith yn cael ei wneud o dan drwydded arbennig gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae hwn yn gam cyntaf pwysig mewn cynllun hirdymor i ofalu am yr adeiladau a’r parc hanesyddol.

“Yn anffodus bydd yn rhaid i ni gau’r amgueddfa i’r cyhoedd tra bydd y gwaith yn cael ei wneud, ond mae hwn yn waith hanfodol y mae’n rhaid ei wneud er mwyn diogelu adeilad yr amgueddfa ei hun a’r casgliadau unigryw y tu mewn.

online casinos UK

“Rydym yn gwella amodau yn yr amgueddfa, ac mae angen i ni wneud newidiadau i’r ffordd y mae’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu er mwyn rheoli’r casgliadau’n well a’u gwneud yn fwy hygyrch.

“Bydd y ganolfan ymwelwyr newydd a’r gwaith o adfer y parc yn datgelu hanes cudd a darparu lleoedd newydd i’w mwynhau a’u harchwilio.

“Mae’n adeg gyffrous i’r amgueddfa ac yn yr hirdymor does dim amheuaeth y bydd yn gwella’r profiad i breswylwyr ac ymwelwyr.”

Tra bydd Amgueddfa Sir Gaerfyrddin ar gau, bydd gweithgareddau’n cael eu cynnal mewn lleoliadau eraill; Parc Howard yn bennaf. Bydd hyn yn cynnwys lansio Oriel Crochenwaith Llanelly newydd wedi’i churadu gan y gymuned, agor Oriel Plentyndod gyda dyfeisiau a difyrion Fictoraidd, ac arddangosiad teithiol a rhaglen ymgysylltu sy’n dathlu treftadaeth chwaraeon menywod yn Sir Gaerfyrddin. Mae rhaglenni dysgu hefyd yn cael eu datblygu mewn partneriaeth ag Oriel Myrddin ac Ymddiriedolaeth Drws i’r Dyffryn.

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith adfer yn Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, a newyddion a digwyddiadau eraill, dilynwch @AmgueddfeyddSirGâr ar Facebook a @CarmsMuseums ar Twitter.

Author