MAE Cyngor Sir Penfro yn ceisio adborth o bob rhan o’r sir i helpu i lunio ei Strategaeth Iaith Gymraeg nesaf.
Mae Safonau’r Gymraeg yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cyngor lunio strategaeth 5 mlynedd, sy’n nodi cynigion ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg yn ehangach yn Sir Benfro.
Yn dilyn adolygiad o strategaeth 2016-2021, a sefydlodd nifer y siaradwyr Cymraeg yn y sir, nodwyd nifer o themâu dros dro ar gyfer y strategaeth newydd:
- Parhau i gefnogi’r defnydd o’r Gymraeg mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar
- Parhau i ddatblygu ac ehangu Addysg Gynradd ac Uwchradd Cyfrwng Cymraeg o fewn y Sir
- Gwella cyfleoedd i bobl ifanc 16+ mlwydd oed ddefnyddio’r Gymraeg
- Parhau i ddarparu cyfleoedd dysgu cymunedol Cymraeg i oedolion
- Cefnogi gwelliannau mewn cysylltedd digidol a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ar-lein
- Mae ein gweithgareddau cynllunio, tai ac adfywio yn helpu i ddiogelu a gwella cyfleoedd i siarad Cymraeg yn ein cymunedau
- Gwella’r canfyddiadau o rôl pwysigrwydd y Gymraeg wrth ddarparu arweinyddiaeth gymunedol, drwy alluogi’r defnydd o’r Gymraeg yn y cyngor a chyfarfodydd Pwyllgor eraill
- Cynyddu ymwybyddiaeth o Safonau’r Gymraeg a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg o fewn Cyngor Sir Penfro

Mae’r Cyngor yn awyddus i glywed sylwadau ac awgrymiadau pobl ar y themâu dros dro, a fydd yn helpu i lunio Strategaeth ddrafft y Gymraeg ar gyfer 2021-2026.
Bydd y Cabinet yn ystyried y strategaeth ddrafft ym mis Mehefin, gyda chyfle pellach i roi adborth ar y strategaeth ddrafft fel rhan o ymgynghoriad ffurfiol yn ddiweddarach eleni.
I rannu eich barn, ewch i https://dweudeichdweud.sir-benfro.gov.uk/
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 28 Ebrill
Add Comment