DRWY GYNNIG gwersi blaengar Therapi Celf mae Unedau Cyfeirio Disgyblion Ceredigion yn rhoi cymorth i blant a phobl ifanc sy’n agored i niwed yn y sir. Wrth weithio â phlant a phobl ifanc gydag anawsterau cymdeithasol ac emosiynol a thrafferthion o ran eu hymddygiad, mae’r gwersi’n eu hannog i ailgydio â’u haddysg ac integreiddio’n well yn eu cymunedau.
Ar hyn o bryd mae Unedau Cyfeirio Disgyblion Ceredigion yn cynorthwyo deg ar hugain o ddisgyblion rhwng wyth ac un ar bymtheg oed, ac mae pymtheg disgybl arall yn cael cymorth mewn ysgolion cynradd ac uwchradd gan dîm o Gynorthwywyr Cefnogi Disgyblion â Thrafferthion ag Ymddygiad.
Mae’r disgyblion hyn yn cael trafferthion am amrywiaeth helaeth o resymau, gan gynnwys profedigaeth, newid yn amgylchiadau’r teulu, anawsterau dysgu a phroblemau meddygol. Mewn ymateb i hyn mae’r disgyblion yn aml yn ymddwyn yn heriol, yn methu â chanolbwyntio yn y dosbarth ac yn cael trafferth ymdopi â theimladau o ddicter, straen a gofid.
Wrth gymryd rhan yn y sesiynau Therapi Celf a ddarperir yn yr Unedau Cyfeirio, mae’r disgyblion yn cael cyfle i fyfyrio ynghylch eu hemosiynau eu hunain ac eraill, magu sgiliau cyfathrebu a chymdeithasu, a meddwl am eu gobeithion a’u dyheadau am y dyfodol. Gwneir hyn oll mewn awyrgylch braf a thawel.
Meddai’r Cynghorydd Hag Harris, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros Wasanaethau Dysgu a’r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc: “Yn sgil y gwersi hyn rydym wedi gweld darnau o waith celf anhygoel gan y disgyblion, ac mae’n sicr wedi bod yn fuddiol o ran gwella lles emosiynol y disgyblion, eu helpu i fagu hyder a dod yn unigolion hapusach, ac wrth gwrs eu hannog i ailgydio yn eu haddysg.”
Mae’r Therapydd Celf Annibynnol, Amanda Clements, yn dod i roi gwersi Therapi Celf ymhob dosbarth Uned Cyfeirio Disgyblion unwaith yr wythnos, fel rhan o wasanaeth y mae Cyngor Sir Ceredigion yn ei ddarparu.
Mae Uned Cyfeirio Disgyblion Ceredigion yn cynnig cwricwlwm difyr sydd wedi’u teilwra ar gyfer anghenion y disgyblion mwyaf agored i niwed yn y sir, ac mae’n un agwedd hanfodol ar y gwasanaeth addysg. Arwyddair yr Uned Cyfeirio Disgyblion yw bod “Pob Plentyn yn Cyfrif” a’i nod yw sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn cael y cyfle gorau posib i ffynnu’n addysgol a chymdeithasol.
Add Comment