Blwyddyn heb ddathliadau mawr
AR FY mwrdd y bore yma, roedd yna rywbeth yn ychwanegol i fy waled, allweddi ac arian.
Roedd blodyn melyn tlws gyda phin bach wrth ei ymyl ar ben y bwrdd. Cennin Pedr oedd y
blodyn. Roeddwn yn barod i ddathlu a chofio nawddsant Cymru, Dewi Sant. Wrth i mi wisgo
fy siwmper, mi wnes i ychwanegu’r blodyn melyn hardd at fy mron gyda’r pin.

Mae Mawrth 1af yn ddiwrnod rydyn ni’n dathlu popeth sy’n Gymreig. Byddai’r plant yn
gwisgo dillad traddodiadol Cymreig wrth fynychu’r ysgol, byddai pawb ym mynd ati i fwynhau
cawl neu ginio cig oen, ac yn neidio mewn i blât o gacennau Cymreig wedi’u pobi’n ffres.
Byddai pobl yn gwisgo coch, gwyrdd a gwyn, wrth orymdeithio o amgylch pentrefi a threfi, a
chynnal Eisteddfodau. Mae pobl yn edrych ymlaen at y dathliad hwn trwy gydol y flwyddyn.
Mae cennin Pedr neu genhinen yn aml yn cael ei gwisgo fel symbol o goffadwriaeth ar
ddillad wrth ddathlu diwrnod Dewi Sant.

Yn anffodus, oherwydd y firws, mae llawer o gynulliadau mewn neuaddau pentref, mewn
eglwysi a chapeli wedi cael eu canslo, yn ogystal â gorymdeithiau trwy bentrefi a threfi.
Ond, er bod y dathliadau wedi’u canslo eleni, gallwn ni dal nodi diwrnod Dewi Sant trwy
ddathlu gyda’n teuluoedd, ac yn ein ffordd fach ein hunain. Mae’r cyfnod clo yma’n rhoi cyfle
inni ddeall pwy oedd Dewi Sant, a pham y cafodd ei ddewis i fod yn nawddsant Cymru.
Dyma hanes y dyn rydyn ni’n ei ddathlu ar y 1af o Fawrth.
Hanes Dewi Sant
Ganwyd Dewi Sant yn y flwyddyn 500, yn ŵyr i Ceredig ap Cunedda, Brenin Ceredigion. Yn
ôl y chwedl, fe esgorodd ei fam Y Santes Non ar glogwyn yn Sir Benfro yn ystod storm
ffyrnig. Dywedir fod y safle’n cael ei nodi gan Gapel Non, sydd nawr yn adfail, a dywedir
hefyd bod gan ffynnon sanctaidd gyfagos bwerau iachâd.

Daeth Dewi yn bregethwr enwog, gan sefydlu aneddiadau mynachaidd ac eglwysi yng
Nghymru, Llydaw a de-orllewin Lloegr – gan gynnwys, o bosibl, yr abaty yn Glastonbury. Yn
ôl pob sôn, aeth Dewi Sant ar bererindod i Jerwsalem, lle daeth â charreg yn ôl sydd bellach
yn eistedd mewn allor yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, a adeiladwyd ar safle ei fynachlog
Wreiddiol.
Dilynodd ef, a’i fynachod fywyd syml, addawol. Fe wnaethant aredig y caeau â llaw, yn
hytrach na defnyddio ychen, ac ymatal rhag bwyta cig neu yfed cwrw. Honnir bod Dewi Sant
ei hun wedi bwyta cennin ac yfed dŵr yn unig – a dyna efallai pam y daeth y genhinen yn
symbol cenedlaethol o Gymru.

Digwyddodd y wyrth enwocaf a oedd yn gysylltiedig â Dewi Sant pan oedd yn pregethu i dorf
fawr yn Llanddewi Brefi. Pan gwynodd pobl yn y cefn na allent ei glywed, cododd y ddaear y
safai arni i ffurfio bryn. Yna daeth colomen wen ar ei ysgwydd, a anfonwyd gan Dduw, ar ei
ysgwydd wedi iddo wneud y wyrth.
Gwyrth enwog arall a berfformiwyd gan Dewi Sant oedd iachâd Peulon, ei athro. Roedd
Peulon yn ddall, ac wedi bod ers blynyddoedd. Gosododd Dewi Sant ei ddwylo ar lygaid
Peulon, a phan dynnodd o ei ddwylo, gallai Peulon weld yn glir am y tro cyntaf. Mae hefyd
wedi’i chael ei gysylltu gydag atgyfodiad bachgen ifanc, trwy dasgu ei ddagrau ei hun ar
wyneb y bachgen er mwyn dod ag ef yn ôl yn fyw.
Bu farw Dewi Sant ar 1 Mawrth – Dydd Gŵyl Dewi – ym 589. Fe’i claddwyd ar safle Eglwys
Gadeiriol Tyddewi, lle’r oedd ei gysegrfa yn le poblogaidd i bererinion trwy’r Oesoedd Canol.
Daeth ei eiriau olaf i’w ddilynwyr o bregeth a roddodd y dydd Sul blaenorol: ‘Byddwch lawen,
cadwch y ffydd, a gwnewch y pethau bach yr ydych chi wedi’u clywed ac wedi fy ngweld yn
eu gwneud.’ Mae’r ymadrodd ] ‘Gwnewch y pethau bach mewn bywyd’ – yn dal i fod yn
adnabyddus iawn yng Nghymru.

Ar ôl Marwolaeth Dewi Sant
Ar ôl i Dewi Sant farw, dechreuodd i gannoedd o bobl ymweld â’i gysegrfa. Dywedir bod y
Pab Calixtus yr 2il wedi canoneiddio Dewi Sant yn 1123, er nad oes tystiolaeth gadarn am
hyn, a datgan hefyd fod 2 bererindod i gysegrfa Dewi Sant yn cyfrif cymaint ag 1 bererindod i
Rufain. Fel y soniwyd o’r blaen, daeth Dewi Sant yn enwog nid yn unig yng Nghymru, ond
hefyd yn Ne Orllewin Lloegr, Iwerddon ac yn Llydaw.
Yn 1284, ar ôl i Edward 1af goncro Cymru, cymerodd weddillion Dewi Sant a’u harddangos
yn Llundain i’r boblogaeth gael eu gweld.
Mae ei faner yn eithaf amlwg yng Nghymru yn ystod mis Mawrth, ac mae i’w gweld yn ystod
y flwyddyn, mewn gemau pêl-droed a rygbi. Mae baner Dewi Sant yn groes euraidd ar draws
cefndir du.
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ychwanegwyd pwyslais ar Fawrth y 1af i addysgu
hanes Cymru mewn ystafelloedd dosbarth, cael pobl i ddysgu Cymraeg, a dathlu
traddodiadau Cymreig eraill o fewn cymunedau. Bu ymgyrch hefyd dros yr ychydig
flynyddoedd diwethaf i wneud Mawrth 1af yn ŵyl genedlaethol yng Nghymru, fel mae
diwrnod Sant Andrew yn ŵyl banc yn yr Alban, ac mae Dydd San Padrig yn ŵyl banc yn
Iwerddon.
Dathlu Yn Ystod y Cynfod Clo
Er y bydd hi’n dorcalonnus i lawer o bobl yn heddiw i fethu â dathlu gyda ffrindiau a theulu,
bydd gennym y flwyddyn nesaf i ymuno gyda’n gilydd a mwynhau’r dathliadau.
Mae Dewi Sant yn ein hatgoffa bod gan bob un ohonom rôl i’w chwarae hyd yn oed yn yr
amseroedd anoddaf. “Gwnewch y pethau bychain” – Mae’r rhain yn eiriau dwys a chysurus
i’n hatgoffa i helpu ein gilydd yn yr amseroedd caled yma, ac maent yn ein hatgoffa i
werthfawrogi pob eiliad o’n bywydau. Mae neges Dewi Sant yn rhywbeth y dylem ei gofio yn
ein bywydau bob dydd.
Mwynhewch ddydd Gŵyl Dewi, a chofiwch i gadw’n ddiogel.
Add Comment