Home » 89,943 yn Ymweld ag Eisteddfod yr Urdd

89,943 yn Ymweld ag Eisteddfod yr Urdd

Yr Urdd: Degau o filoedd a gasglwyd

AR DDIWRNOD olaf Eisteddfod yr Urdd Pen-y-bont ar Ogwr, Taf ac Elai, gynhadliwyd eleni ym Mhencoed, cyhoeddodd y trefnwyr fod 89,943 wedi ymweld â’r ŵyl eleni.

Roedd dros 15,000 yn cystadlu yn ystod yr wythnos, gyda dros 269 o staff a gwirfoddolwyr yn sicrhau rhediad llyfn yr ŵyl. Ar gyfartaledd, roeddent yn cerdded 17km yr un y dydd, oedd yn gyfanswm o 4,573km, sy’n cyfateb â’r pellter o Bencoed i Quebec yng Nghanada.

Am y tro cyntaf erioed, roedd nadroedd i’w gweld ar Faes yr Urdd yn stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a bu dros 800 yn neidio tu fewn i gromen ymenydd anferth tu allan i’r Gwyddonle. Yn ardal Creadigidol o fewn y Gwyddonle, crewyd 200 elfen ar gyfer gwefan You Tube a threuliwyd 300 awr yn creu bydoedd newydd Minecraft.

Ym Mhentre Mistar Urdd, bu 175 o blant yn dringo cyfanswm o 105km a thynwyd tua 2,700 hunlun ar sedd buwch friesian Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed. Gwerthwyd 750 o degannau Mistar Urdd a chymrodd 4,060 o blant ran yng ngweithgareddau’r ardal chwaraeon. Ar y dydd Llun, roedd cwpanau Cynghrair y Pencampwyr UEFA yn cael eu harddangos yn yr adral, a chafodd tua 750 gyfle i dynnu eu llun gyda’r cwpanau.

Lasagne oedd y pryd bwyd werthodd orau yng Nghaffi Mistar Urdd, gyda’r ymwelwyr yn bwyta 950kg o sglodion, 257kg o ffa pôb a 1,250 ŵy. Yfwyd dros 13,000 paned o de a choffi yno.

Roedd clipiau o’r pafiliwn i’w gweld ar wefan You Tube, gafodd eu gwylio 72,613 o weithiau am gyfanswm o 100,074 munud.

Un stondin gafodd wythnos dda iawn oedd Teganau Tina, sydd â siop Gifts Galore yn Ninbych. Yn ôl y perchennog Tina Roberts, “Rydym wedi cael wythnos brysur iawn yma, yn arbennig ddechrau’r wythnos, gyda ‘fidgit spinners’ a rhubanau gwallt mawr yn gwerthu’n dda iawn. Mae rhai plant wedi treulio oriau yma!”

Busnes arall gafodd wythnos dda iawn oedd Anwen Roberts, perchennog cwmni cardiau ‘Draenog’. Dywedodd, “Mae wedi bod yn Eisteddfod grêt i ni – dyma’r tro cyntaf i ni ddod i’r Urdd. Roedd cymryd stondin ein hunain yn ormod o risg ariannol felly roedd gofod yn Marchnad Mistar Urdd gyda chwmnïau eraill yn opsiwn gwych.

“Mae hefyd wedi bod yn wythnos wych o ran codi ymwybyddiaeth o’n cynnyrch – ymysg y cyhoedd o ran gwerthu dros y we ond hefyd o ran busnesau i stocio ein cardiau.”

Roedd teilyngdod yn yr holl brif seremonïau, gyda Ryan Howells yn ennill y Fedal Gyfansoddi, Rebecca Jones yn ennill Medal y Dysgwyr, Mared Llywelyn yn ennill y Fedal Ddrama, Gwynfor Dafydd y Gadair a Elen Gwenllian y Goron.

online casinos UK

Yn ôl Aled Siôn, Cyfarwyddwr yr Eisteddfod, “Rydym wedi cael Eisteddfod wych ym Mhencoed, gyda phopeth wedi mynd yn hwylus. Roedd safon y cystadlu yn uchel iawn – yn y pafiliwn a thu hwnt, ac rydym yn hynod falch o allu cynnig y platfform hwn i blant a phobl ifanc Cymru ddangos eu doniau mewn cynifer o feysydd gwahanol.

“Hoffwn ddiolch i’r noddwyr am eu cefnogaeth i’n gŵyl ac i’r byddin o staff a gwirfoddolwyr am eu gwaith di-flino yn ystod yr wythnos.”

Un o’r gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn hynod brysur yn ystod yr wythnos yw Tegwen Ellis, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith lleol. Dywedodd, “Mae hi wedi bod yn wythnos fythgofiadwy ac mae cyfraniad y bobl leol dros y ddwy flynedd diwethaf wedi bod yn anhygoel. Hoffwn ddiolch i staff yr Urdd am eu cefnogaeth ac i’r holl wirfoddolwyr, ymwelwyr, cystadleuwyr, beirniaid a hyfforddwyr ac athrawon am eu gwaith caled.

“Y cyfan sydd ar ôl i’w wneud nawr yw dymuno’n dda i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd pan fydd hi yn ymweld gyda Brycheiniog a Maesyfed yn 2018.”

Cafodd 2,500 o dracfyrddau a 60 milltir o geblau eu defnyddio i adeiladu’r Maes a chymerodd bump wythnos i dîm o 150 o weithwyr gael y Maes yn barod – bydd yn cymryd 10 diwrnod i’w gymryd i lawr.

Author