Home » Cerddwyr Cylch Teifi

Cerddwyr Cylch Teifi

Cerddwyr Cylch Teifi yn yr haul uwchben Cwm Soden, ger Cwmtydu

Cerddwyr Cylch Teifi yn yr haul uwchben Cwm Soden, ger Cwmtydu

CAWSOM daith odidog ym mis Mai, pan fuom yn ardal Cwm Soden a Chastell Bach, ger Cwmtydu, gyda Howard Williams yn arwain.

Roedd yr haul yn gwenu’n braf trwy gydol y daith. Daeth grŵp o ddysgwyr i ymuno â ni, fel rhan o’u cwrs penwythnos gyda Chymdeithas yr Iaith yn Nhresaith, ac roedd yn dda cael eu cwmni.

Gan ddechrau wrth Eglwys St Tysilio, cerddon ni dros gaeau i’r penrhyn i’r gogledd o Gwmtydu, ar lwybr yr arfordir i lawr i Draeth Cwm Soden ac wedyn lan y Cwm a’i lethr ddeheuol i’r Eglwys.

Wrth gerdded, gallem fwynhau golygfeydd gwych o’r arfordir, blodau ar eu gorau, Castell Bach (o’r Oes Haearn), cwm prydferth, rhaeadrau annisgwyl, a’r eglwys mewn llecyn hyfryd. Ar ôl cerdded, aeth rhai i gael lluniaeth yng nghaffi Melyn-y-gors yng Nghwmtydu, ac eraill i’r tafarnau yn Llangrannog.

Fis Mehefin 11eg, byddwn yn ardal Cilgerran a Llechryd gydag Emyr Phillips yn arwain, a hon fydd ein taith olaf y tymor hwn. Cychwynnwn o Faes Parcio Neuadd Cilgerran (SN 198 428 Cod post: SA43 2TE). Dewch mewn da bryd i ddechrau ar y daith am 10:30, os gwelwch yn dda.

Yna, awn ar daith gylch 3.2 milltir (rhwng 2 a 2½ awr), hanner ar lwybrau cyhoeddus i lawr i’r ceunant ac ar hyd yr afon i Bont Llechryd, a’r hanner arall ar y ffyrdd cul rhwng Llechryd a Chilgerran. Bydd angen gofal wrth yr afon (yn enwedig lle cafodd y llwybr ei erydu) ac ar y ffyrdd (sy’n weddol brysur ar adegau).

Does dim sticlau ond mae esgyniad o ryw 200 troedfedd. Dysgwn ni am hanes y diwydiant llechi, gwaith tin Llechryd, plasty teulu Hammet, y trap pysgod, yr odyn galch i’r gogledd o’r afon, cysylltiad yr afon â’r rhain i gyd, a lleoliad ‘Hen Bentref Llechryd’.

Ar ôl cerdded, bydd cyfle i gael lluniaeth yn y Cardiff Arms yng Nghilgerran.

Author