
Ceredigion ym Mhenmorfa.
MAE’R FANER enfys yn chwifio ar hanner mast ar adeilad Cyngor Sir Ceredigion ym Mhenmorfa er cof am ddioddefwyr a’r rhai a gollwyd yn yr ymosodiad yn nhalaith Florida.
Mae’r faner enfys yn chwifio ar hanner mast ar adeilad Cyngor Sir Ceredigion ym Mhenmorfa er cof am ddioddefwyr a’r rhai a gollwyd yn yr ymosodiad yn nhalaith Florida.
Bu i 50 o bobl eu lladd o ganlyniad i saethu yng nghlwb nôs hoyw Pulse yn Orlando yn oriau mân fore Sul (12 Mehefin). Cafodd 53 o bobl eu hanafu yn y digwyddiad y mae’r heddlu yn ei ddisgrifio fel gweithred derfysgol.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn: “Dyma ein teyrnged ni i’r rhai a gollwyd yn y gyflafan erchyll yn America, a byddem yn hoffi dangos ein cydymdeimlad i’r holl bobl sydd wedi colli ffrindiau, aelodau o’u teulu, a rhai agos yn yr ymosodiad arswydus yma.”
Add Comment