Home » Golwg ar berfformio

Golwg ar berfformio

screen-shot-2016-10-31-at-14-50-26BU MYFYRWYR cwrs ‘Astudiaethau Galwedigaethol’ Coleg Ceredigion ar ymweliad a Theatr Arad Goch yn ddiweddar fel rhan o’u hastudiaethau ar gyfer uned ‘Cyflwyniad i Gelfyddydau Perfformio’.

Yn ystod eu hamser yn y theatr, cafodd y myfyrwyr eu tywys ar daith o amglych y theatr cyn cael cyfle i holi cwestiynnau i ddau o actorion sioe ddiweddaraf y cwmni sef ‘Y Glec’.

Mae’r perfformwyr Owain Llŷr Edwards a Rhodri Sion yn chwarae rhan sawl cymeriad yn y sioe. Fel rhan o’r uned gofynnir i fyfyrwyr ymchwilio i’r sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen i fod yn berfformiwr. Roedd y ddau actor yn fwy na pharod i ateb cwestiynau ac i gynnig cyngor i’r myfyrwyr. Yn dilyn y cwestiynau, cafodd y myfyrwyr gyfle i fwynhau rhagflas o’r sioe.

Mae’r cynhyrchiad awr o hyd yn trafod llawer o faterion pwysig i bobl ifanc; gan gynnwys goryfed alcohol a’r effaith mae’n ei gael ar iechyd ac agwedd pobl ifanc â thrais ymysg pobl ifanc.

Diau y gwnaiff y myfyrwyr ddefnyddio’r profiad wrth iddynt baratoi ar gyfer eu Sioe Nadolig yn mis Rhagfyr.

Author