Home » Llofruddiaethau’r Moors: y cysylltiadau Cymreig

Llofruddiaethau’r Moors: y cysylltiadau Cymreig

YN RHAGLEN olaf y gyfres bresennol o Y Ditectif ar S4C, fe fydd Mali Harries yn edrych ar un o achosion mwyaf erchyll yn hanes troseddol gwledydd Prydain – Llofruddiaethau’r Moors.

Mae’n cwrdd â thri o’r Cymry ddaeth mewn cysylltiad â’r seicopath Ian Brady a’i bartner Myra Hindley, wrth ddysgu am hanes tywyll a dychrynllyd yr achos yn Y Ditectif nos Fawrth 5, Mehefin.

Fe wnaeth y cyn-Dditectif Gwnstabl Evan John Hughes ddod wyneb yn wyneb â Brady pan oedd yn rhan o dîm CID Heddlu Sir Gaer yn 1965. Buodd yr ymgyrchydd iaith Enfys Llwyd yn canu mewn côr a chwechawd gyda Hindley yng Ngharchar Holloway, Llundain yn y 1970au, a’r newyddiadurwr Bob Rogers yn llythyru â Brady pan oedd yn Ysbyty Meddwl Ashworth. Mae’r tri yn arswydo at y profiad o hyd.

Fe wnaeth Brady a Hindley lofruddio pump o blant dros gyfnod o tua 18 mis yn ystod y 1960au, gan gladdu cyrff tri ohonyn nhw ar Saddleworth Moor, ger Manceinion. Wrth droedio’r gweundir, yr union dir y buodd y ditectif Evan Hughes a 150 o heddweision eraill yn chwilio, mae’r profiad yn codi ias ar Mali Harries.

“Mae dysgu am fanylion yr achos ‘ma wedi bod yn anodd, ac ro’dd bod ar y Moors yn rhoi teimlad anghysurus iawn i fi wrth feddwl am yr holl ddioddef.”

Cafodd Ian Brady a Myra Hindley eu dedfrydu am oes yn llys Caer, Chester Assizes ym 1966 am lofruddio Edward Evans, 17, John Kilbride, 12, a Lesley Ann Downey, 10.

Roedden nhw’n gwadu unrhyw gysylltiad gyda’r ddau blentyn coll arall ar y pryd ond fe wnaethon nhw gyfaddef i lofruddiaethau Pauline Reade, 16, a Keith Bennett, 12 yn hwyrach yn yr ’80au. Dyw corff Keith Bennett erioed wedi cael ei ddarganfod a bellach mae Brady a Hindley wedi marw.

Un o’r darnau mawr o dystiolaeth i’r heddlu yn y 60au oedd cynnwys dau gês. Ynddyn nhw roedd lluniau noeth o ferch fach a thâp gyda recordiad sain arno fe. Ar y tâp mae lleisiau Brady a Hindley ac eiliadau olaf y ferch ddeg oed oedd wedi diflannu, Lesley Ann Downey, yn pledio arnyn nhw i’w rhyddhau a pheidio â’i dadwisgo. Wrth ddarllen trawsgrifiad o’r tâp hwn nid yw Mali’n gallu dal y dagrau yn ôl, ac yn ei ddisgrifio fel “y peth gwaetha’ fi byth wedi darllen.”

Wrth i Mali sgwrsio â’r cyn dditectif Evan Hughes sydd bellach wedi ymgartrefu ym Mhwllheli, Gwynedd, mae’n dweud mai’r un o’i atgofion cyntaf iddo fe oedd cael y gorchymyn i orchwylio Brady pan gafodd ei arestio gyntaf.

“Roedd rhywun wedi rhoi papur newydd iddo fo ac roedd o’n darllen y papur newydd fel nad oedd dim byd wedi digwydd erioed. Dwi wedi treulio’r hanner can mlynedd yn ceisio anghofio amdano fo ond dyw pobol ddim yn gadael imi anghofio…. Fuaswn i’n disgrifio’r ddau’n ddieflig, a dweud y gwir, mae’n anodd coelio bod unrhyw berson wedi gallu gwneud beth wnaeth y ddau yma,” meddai Evan.

online casinos UK

Roedd Enfys Llwyd o Dalgarreg, Ceredigion wedi cael ei hanfon i Holloway ar ôl torri mewn i swyddfeydd y BBC yn Llundain wrth ymgyrchu dros sianel deledu Gymraeg ar ran Cymdeithas yr Iaith. Roedd hi a’i chyd ymgyrchydd Meinir Ffransis yn canu yng nghôr y carchar gyda Hindley.

“Roeddech chi’n edrych ar ei dwylo hi a meddwl beth oedd y clustie’ wedi clywed a’r llygaid wedi gweld, roeddech chi’n teimlo arswyd,” meddai.

Bu’r newyddiadurwr a’r awdur Bob Rogers yn llythyru â Brady yn y gobaith o gael gwybodaeth ganddo am le yr oedd Keith Bennett wedi’i gladdu. Dywedodd, “Gymerodd e ddim sylw o fy nghwestiynau, y cyfan ges i ‘nôl oedd rantio a chwyno am sut roedd yn cael ei drin. Doedd e’n gweld dim drwg yn yr hyn oedd wedi ei wneud. Dyma oedd fy mhrofiad cyntaf o ddelio gyda seicopath llwyr, fel arfer mae yna ryw rinwedd yn rhywle ond roedd e’n ddrwg i gyd.”

Author

Tags