CYNHELIR ail Ras yr Iaith rhwng 6 a 8 Gorffennaf 2016lle bydd pobl Cymru yn rhedeg drwy 25 tref a phentref rhwng Bangor a Llandeilo, o’r Gogledd i’rDe, gan uno’n gwlad gyda Baton yr Iaith. Ar ddydd Iau, 7 Gorffennaf 2016, bydd Ras yr Iaith2016 yn rhedeg drwy Geredigion gan roi’r cyfle ibawb ddathlu’r iaith drwy fod yn rhan o ras hwyl gyfnewid. Nid ras i athletwyr yw Ras yr Iaith ond ras dros y Gymraeg gan bobl Cymru.
Cynhaliwyd y Ras gyntaf yn 2014, gyda’i phwrpas i ddathlu’r Gymraeg, codi ymwybyddiaeth o’r iaith, a dangos i’r byd fod cefnogaeth i’r Gymraeg ar lawr gwlad. Cofiwch, mae’n agored i bawb – siaradwyr rhugl, dysgwyr a phawb sy’n cefnogi’r iaith. Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn, “Mae Cyngor Sir Ceredigion yn awyddus iawn i fod yn rhan o Ras yrIaith eleni, yn enwedig yn dilyn llwyddiant ysgubol yras yn 2014. Cydlynir llwybrau Ceredigion gan Cered, ein Menter Iaith ni, sydd â rhwydwaith o grwpiau ac arbenigedd mewn cysylltu gyda phobl o bob cefndir. Mae’n gyfle i dynnu ein cymunedau ynghyd i hybu, hyrwyddo a dathlu’r Gymraeg mewn modd hwyliog sy’n agored i bawb.
Bydd llwyddiant y ras yn dangos brwdfrydedd trigolion Ceredigion i weld ffyniant yn ein cymunedau a’r iaith Gymraeg.” Bydd y baton, sydd wedi cael ei gerfio’n arbennig i’rras, yn cael ei drosglwyddo o law i law, wrth i redwyr ddangos eu cefnogaeth i’r iaith. Bydd unigolion, teuluoedd, busnesau a chlybiau lleol, sefydliadau ac ysgolion yn noddi ac yn rhedeg 1 cilomedr gan gario baton. Gall holl ddisgyblion yr ysgol neu holl aelodau tîm pêl-droed y pentref redeg yr 1 cilomedr hwnnw. “Mae’n amser i garedigion y Gymraeg ddod at ei gilydd, a dangos ychydig o hwyl dros yr iaith. ByddRas yr Iaith yn ffordd wych i dynnu pobl at ei gilydd a dathlu ein bod ni yma o hyd!” meddai Siôn Jobbins sydd wedi rhedeg yn y rasus llwyddiannus tebyg dros y Llydaweg, Gwyddeleg a Basgeg.
Bydd y Ras yn dechrau yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 7 Gorffennaf am 9.15y.b. gan ymweld â Thregaron (11.15 y.b.), Llambed (12:30 y.p.), Aberaeron (2 y.p.), Cei Newydd (3 y.p.), Llandysul (4.30 y.p.), Castell Newydd Emlyn (5.30 y.p.) ac Aberteifi (6.30 y.h.). Bydd Yvonne Evans, cyflwynwraig tywydd S4C yn rhedeg cymal Aberaeron a Tommo, cyflwynydd Radio Cymru yn rhedeg cymal Aberteifi. Bydd y ras yn gorffen yng Nghastell Aberteifi, lle bydd cyfle i chi ymuno. Cynhelir digwyddiad i ddathlu diwedd y ras yng Ngheredigion yng Nghastell Aberteifi gydag arlwy o dalent a cherddoriaeth ar eich cyfer a bydd mynediad am ddim!
“Mae’n amser dathlu’r Gymraeg a thynnu ynghyd pobl o bob cefndir a diddordeb sydd yn cefnogi’r iaith– boed nhw’n siaradwyr Cymraeg, dysgwyr neu’n ddi-Gymraeg.” meddai Lynsey Thomas, Rheolwr Cered, Menter Iaith Ceredigion sy’n cydlynu’r trefniadau yn y sir. Yn ystod y Ras yng Ngheredigion bydd band roc ifanc a chyffrous Y Fflamau Gwyllt o Ysgol Gynradd Rhos Helyg yn perfformio gig awyr agored tu allan i’rTalbot yn Nhregaron am 11:00 y.b. cyn i’r ras adael y dref. Bydd adloniant ysgafn yn cychwyn o flaen Neuadd y Dref yn Aberaeron am 1:30 y.p. cyn cychwyn y ras yno. Bydd y perfformwyr yn cynnwys Côr Ysgol Gynradd Aberaeron a Dawnswyr Gwerin Ysgol Gyfun Aberaeron. Recordiwyd cân yn arbennig ar gyfer Ras yr Iaitheleni gan Dewi Pws.

Fe hefyd fydd yn sylwebu ar hyd y ras gan annog rhedwyr a chefnogwyr i gael hwyl. Llysgenhadon y Ras eleni yw Lowri Morgan, Angharad Mair ac Owain Gwynedd. Yn ogystal â’r uchod, bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal o gwmpas y Ras. Ar nos Fercher, 6 Gorffennaf, cynhelir ‘Noson Lles i Bawb’ yn y Bandstand yn Aberystwyth. Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys sgwrs wedi’i gadeirio gan Deian Creunant yng nghwmni Owain Gwynedd sy’n gyflwynydd S4C a dyfarnwr, Steffan Hughes sy’n dywysydd Paralympaidd, a’r rhedwr profiadol Dic Evans, a fydd yn rhedeg Ras yr Iaith eleni o’rGogledd i’r De.
Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys sesiwn cadw’n heini gyda Bridget James er mwyn paratoi pawb ar gyfer y Ras ar y diwrnod canlynol. Mae cyfle i bawb fod yn rhan o’r Ras, un ai trwy redeg, noddi, neu gefnogi – does dim esgus i beidio â bod yn rhan o’r dathliad gwych hwn o’r iaith. Os ydych yn awyddus i fod yn rhan o fwrlwm y Ras, cysylltwch â Cered am fwy o wybodaeth [email protected]. Am fwy o wybodaeth am Ras yr Iaith, ewch i http://rasyriaith.cymru
Add Comment