
CYNHELIR noson arbennig i ddarganfod dirgelion yr awyr dywyll ym Mhentref Oes Haearn Castell Henllys nos Wener 28 Hydref. Bydd yn gyfle i chi ddod i wybod mwy am gyfundrefn yr haul a dysgu sgiliau newydd i’ch helpu i fwynhau awyr y nos yn eich amser eich hun.
Bydd y digwyddiad unigryw hwn, a fydd yn dechrau am 7pm, yn gyfle i bobl archwilio dirgelion y cosmos yn yr un lleoliad cyfareddol ag y byddai trigolion yr Oes Haearn yn gwneud hynny filoedd o flynyddoedd yn ôl.
Dywedodd Rheolwraig Castell Henllys, Jenn Jones: “Bydd y digwyddiad hwn yn gyfle unigryw i ymweld â’r fryngaer sydd wedi’i hail-greu, a mwynhau awyr y nos yn union fel y byddai’r llwyth Celtaidd yn ei wneud yma amser maith yn ôl.
“Bydd modd i bobl ddysgu mwy am awyr y nos mewn tair gwahanol ffordd a bydd lluniaeth ar gael yn y caffi ar y safle. Bydd yn noson gyffrous i’r teulu cyfan.”
Bydd planetariwm arbennig yn cael ei osod ar y safle i’ch helpu i gael golwg well fyth ar y sêr, a bydd telesgopau cryf ar gael hefyd i ennyn eich diddordeb.
Os hoffech ddysgu sut i ddefnyddio’ch camera i dynnu lluniau o awyr y nos, bydd Drew Buckley, y ffotograffydd proffesiynol, wrth law i gynnig cyngor a’ch helpu i gael y lluniau gorau o’r awyr dywyll.
Bydd cawl cynnes ar werth yng nghaffi’r Sgubor, fydd ar agor drwy’r min nos, a bydd cacennau a lluniaeth ysgafn ar gael hefyd.
Cynhelir y digwyddiad Darganfod yr Awyr Dywyll yng Nghastell Henllys rhwng 7pm a 10.30pm nos Wener 28 Hydref.
Pris tocyn oedolyn yw £15, ac mae tocynnau i blant a thocynnau pris gostyngol yn £12. Pris tocyn teulu (dau oedolyn a dau blentyn) yw £42. Ni ellir rhoi ad-daliad. Rhaid archebu lle ymlaen llaw.
I archebu lle ffoniwch 01239 891319.
Add Comment