
BYDD Arddangosfa Gelf Llanfair Clydogau eleni yn cael ei chynnal yn Neuadd y Pentref am y drydedd flwyddyn yn olynol, yn dechrau ar ddydd Iau Awst 11fed hyd ddydd Sul Awst 14eg.
Bydd amrywiaeth o waith gan ddeg artist lleol, crochenwaith, ffeltio, printiau leino, cerfiadau, colograffiau a pheintiadau olew, acrylic a dyfrlliw.
Yr artistiaid fydd yn arddangos eu gwaith yw Aerwen Griffiths, Ali Scott, Casi Gray, John J Petts, Claire Parsons, Krystyna Krajewska, Cynthia Westney, Dodie a Jamie Herschel, Sarah Evans a Sue Powell.
Bydd croeso mawr i bawb ddod i weld neu i brynu, neu i gymdeithasu dros baned o de neu goffi a chacen. Dewch yn llu.
Add Comment