
FEL RHAN o’i daith 2016 trwy wledydd Prydain, ac er mwyn dangos cefnogaeth i grwp o Gristnogion radicalaidd lleol, bydd un o sêr y byd roc Cristnogol yn perfformio y mis nesaf yn Ysgol Llanfihangel-ar-arth, Dyffryn Teifi.
Bydd Garth Hewitt yn cynnal cyngerdd byw dan nawdd ‘Coda Ni’ am 5pm Sul 13eg o Dachwedd yn yr adeilad a feddianwyd gan bentrefwyr wedi’i chau fel ysgol yn 2003 ac sydd nawr yn perthyn i’r gymuned.
Mae Garth Hewitt wedi rhyddhau dros 40 o albymau dros bedwar degawd, ac wedi cyhoeddi 9 llyfr gan gynnwys yn 2014 ‘Occupied Territories – the revolution of love from Bethlehem to the ends of the earth’.
Mae wedi canu droeon ar lwyfan Gwyliau Roc fel ‘Greenbelt’ ac hefyd yn y ‘Grand Ole Opry’ yn UDA, ac mae ei ganeuon yn seiliedig are i brofiad yn brwydro am gyfiawnder i bobloedd gorthrymedig y byd gan ddangos eu gwerth yng ngolwg Duw.
Mae’n offeiriad ordeiniedig, ac fe’i penodwyd yn Ganon anrhydeddus i Eglwys Gadeiriol Jerusalem yn gydnabyddiaeth o’i frwydr dros y Palestiniaid. Bydd y gyngerdd yn cynnig golwg newydd ar neges y Nadolig pryd y daeth heddwch a chyfiawnder Duw i’r byd. Bydd yn canu am seren Bethlehem a ffilm ohono ddeufis yn ôl yn canu am heddwch ar Gaeau’r Bugeiliaid ym Methlehem ond hefyd bydd yn tystio i’r gorthrwm gan fynnu bod y wal sy’n troi Bethlehem yn garchar agored yn cael ei ddymchwel ‘They’ve cancelled Christmas in Bethlehem’.

Yn ogystal â chynnal cyngherddau a chyfarfodydd yn gyson yn eglwysi ac ar strydoedd Bethlehem, daw caneuon eraill ganddo o Dde Affrica ‘Arfau Cariad / Strange Weapons’ ac o India ‘Road to Freedom’ sy’n ymwneud â gormes tlodi.
Mae criw ‘Coda Ni’ – grwp o Gristnogion o Ddyffryn Teifi – yn falch fod y llais cryf hwn dros heddwch a gobaith yn dod i’n hysbrydoli ni yn Nyffryn Teifi.
Tocynnau’n costio £10 yr un ar gael gan [email protected] (01559 384378).
Gellir cael rhagor o wybodaeth hefyd gan Meinir neu Ffred ar y rhif hwn.
Add Comment