MAE Ryan Harris, sydd wrth ei fodd yn helpu ei gyflogwr i fod yn fwy effeithlon ac yn ysbrydoli peirianwyr y dyfodol, yn brentis sydd wedi creu argraff ar bawb.
Mae Ryan, 21, o’r Ddraenen Wen, Pontypridd, yn brentis technegydd datblygu prosesau gyda chwmni peirianneg byd-eang Renishaw ar eu safle ym Meisgyn, ger Pontyclun.
Yn ystod ei brentisiaeth, mae Ryan wedi arbed miloedd o bunnau i’r cwmni gyda chyfres o brosiectau. Mae hyn yn cynnwys addasu peiriannau i arbed ynni a gwella prosesau archebu a storio nwyddau.
Oherwydd ei lwyddiant, mae Ryan wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr Doniau’r Dyfodol yng ngornest fawreddog Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021.
Yn y dathliad blynyddol hwn o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau, mae 35 o ymgeiswyr wedi cyrraedd y rhestrau byrion mewn 12 categori. Cyhoeddir enwau’r enillwyr mewn seremoni wobrwyo ddigidol ar 29 Ebrill.
Y gwobrau yw uchafbwynt blwyddyn byd dysgu seiliedig ar waith. Maent yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori yn Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i lwyddo yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig a chwmni sy’n frwd o blaid prentisiaethau, yw’r prif noddwr eleni eto.
Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).
Mae Ryan yn mentora prentisiaid newydd ac mae’n gweithredu fel llysgennad gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) er mwyn hyrwyddo peirianneg mewn ysgolion. Mae hynny wedi rhoi hwb i’w hunanhyder a’i sgiliau cyflwyno.

Roedd yn un o bedwar myfyriwr peirianneg fecanyddol o Goleg y Cymoedd a fu ar ymweliad pythefnos â Stadler yn yr Almaen fel rhan o raglen Erasmus a ariannir gan yr Undeb Ewropeaidd gan roi cyfleoedd i bobl ifanc astudio neu gael profiad gwaith yn un o wledydd eraill Ewrop.
Ar ôl ennill cyfres o gymwysterau peirianyddol trwy’r coleg a gyda Renishaw, yn cynnwys Prentisiaeth mewn Gosod a Chomisiynu, mae Ryan yn gweithio tuag at HNC Mecanyddol Pearson a drefnir gan Goleg Pen-y-bont.
Ei uchelgais yw ennill Gradd mewn Gweithgynhyrchu a Pheirianneg Fecanyddol (BEng) er mwyn dod yn beiriannydd datblygu prosesau.
Dywed Ryan iddo gael ei ysbrydoli i ddilyn gyrfa mewn peirianneg gan un o athrawon yr ysgol a gan ymweliad â Renishaw lle gwelodd “linellau cynhyrchu dyfodolaidd a mannau gweithio rhyfeddol o lân”.
“Mae Renishaw yn rhoi llawer o amser ac adnoddau i’w Rhaglenni Prentisiaethau, gyda chyfleoedd gwych i beirianwyr, ac rwy’n falch o gael bod yn rhan o hynny,” meddai. “Rwy wedi cael fy nghanmol yn aml yn ystod fy mhrentisiaeth ac mae hynny’n hwb i fy hyder ac wedi fy ysbrydoli i ddal ati i wneud yn well eto yn y gwaith.”
Dywedodd Simon Biggs, swyddog addysg allanol a rheolwr prentisiaid Renishaw ym Meisgyn, bod Ryan yn brentis sydd wedi creu argraff a’i fod wedi dod i sylw’r cwmni fel un sy’n barod i weithio ar brosiectau heriol a’u cwblhau, gan wella effeithlonrwydd ac arbed arian.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Mae ein Rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau yn helpu pobl i gyflawni eu huchelgeisiau am yrfa ac rwyf wrth fy modd ein bod eisoes wedi cyrraedd ein nod o greu 100,000 o brentisiaethau yn nhymor y Senedd hon.
“Bu hyn yn allweddol wrth helpu prentisiaid o bob oed i ennill sgiliau a phrofiad pwysig y gwyddom fod ar fusnesau ym mhob sector o’r economi yng Nghymru eu gwir angen. Bydd hyn yn hanfodol wrth i ni ddod allan o gyfnod y pandemig.
“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle gwych i ddathlu ac arddangos yr hyn a gyflawnwyd gan bawb, o brentisiaid disglair i ddarparwyr dysgu medrus.
“Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer eleni a dymuno’n dda i bob un ohonynt yn y dyfodol.”
Add Comment