
ODYCH CHI am brynu tafarn?
Fel y gwyddoch mae Tafarn Sinc ym mhentref Rhos-y-bwlch ar werth ers tro. Cyhoeddodd y perchnogion y byddan nhw’n cloi’r dryse cyn y Nadolig p’un a fydd yr eiddo wedi’i werthu neu beidio. Does neb wedi rhoi cynnig eto. Y pris a nodwyd gan yr arwerthwyr yw £295,000.
Pwy sydd am wynebu’r her o barhau i hyrwyddo’r dafarn a’r bwyty fel canolfan Gymreig a Chymraeg? Bu Brian a Hafwen Davies wrth y llyw am chwarter canrif. Datblygwyd busnes llwyddiannus a chrëwyd awyrgylch unigryw drwy hongian yr ystlyse mochyn a’r holl offer amaethyddol. Mae hyd yn oed y portread o’r gweinidog un llygad, Christmas Evans, uwch ben y lle tân, yn cadw un llygad barcud ar yr ystafell.
Cymaint yw’r consyrn yn lleol y gallai’r adnodd gael ei golli nes penderfynu cynnal cyfarfod cyhoeddus i ystyried prynu’r dafarn yn enw’r gymuned. Cynhelir y cyfarfod yn Neuadd Maenclochog ar Nos Fercher, Gorffennaf 12 am 7.30. Yn bresennol fydd y Cyng. Cris Tomos, un o uwch swyddogion PLANED, sydd â phrofiad helaeth ym maes gweithgareddau cymunedol.
“Bwriad y cyfarfod cyhoeddus fydd i weld a oes diddordeb gan drigolion y fro i brynu cyfranddaliade o £200 yr un. Gall pawb brynu mwy nag un cyfranddaliad wrth gwrs. Adeiladwyd Tafarn Sinc yn 1876 felly dim ond 1,876 o gyfranddaliade fydd ar gael. Am fod Tafarn Sinc mor enwog mae’n siŵr y bydde pobl y tu hwnt i’r fro ac ar draws y byd yn barod i gyfrannu wrth i’r ymgyrch codi arian godi stem. Mi fydde cyrraedd y nod o 1,876 o gyfranddaliade yn codi £375,200,” meddai Cris.
Hefyd yn bresennol fydd Shan Williams o 4CG Aberteifi sydd hefyd â phrofiad helaeth yn y maes. Bydd y ddau yn medru esbonio ac ateb cwestiynau ynghylch y glo mân o redeg menter o’r fath. Gall fod yn fenter gyffrous ond rhaid wrth gefnogaeth y fro. Mae enghreifftiau lu ar draws y wlad o gwmnïau cymunedol sy’n rhedeg tafarndai’n llwyddiannus.
Dewch draw i weld beth sy’n bosib.
Os am fwy o fanylion cysylltwch â Cris Tomos crist@ planed.org.uk 07974 099738 01834 860965 Trefnir y cyfarfod gan Clebran, papur bro’r Preseli.