
DIFRODWYD diffibriliwr Canolfan Bentref Cwmann nos Lun. Roedd wedi ei dynnu o’r cwpwrdd tu fas y ganolfan a’i adael yn y glaw dros nos.
Diffibriliwr (neu defibrillator yn Saesneg) yw’r peiriant cyfrifiadurol a ddefnyddir mewn argyfwng pan fydd rhywun wedi cael trawiad ar y galon.
Roedd y diffibriliwr wedi ei ddarparu gan Sefydliad y Galon. Cafwyd cyfraniad ariannol gan y Cyngor Cymuned tuag at brynu’r cwpwrdd pwrpasol ac roedd Pwyllgor y Pentref wedi cyfrannu rhodd i’r elusen er mwyn iddyn nhw ddarparu’r peiriant i’r gymuned.
Felly pam fyddai unrhyw un yn dymuno difrodu’r diffibriliwr? Apeliodd y Cyng. Ronnie Roberts ar Facebook am wybodaeth. “Gallai hyn wedi bod yn drychinebus petai rhywun wedi cael problem gyda’r galon yn y cyfamser” meddai’r Cyng. Roberts.
Ychwanegodd “Os oes rhywun yn gwybod unrhyw beth am hyn, cysylltwch a fi os gwelwch yn dda.”
Difrodwyd tri phostyn golau newydd hefyd sy’n arwain i fynedfa Ysgol Carreg Hirfaen. Hysbyswyd yr heddlu am y digwyddiad a gwiriwyd ffilm camerau diogelwch yr ysgol.
Mae’r diffibriliwr wedi ei adfer erbyn hyn a nol yn ddiogel yn y cwpwrdd ar gyfer ei ddefnyddio mewn argyfwng.
Add Comment