AR DDYDD Mercher (Hydref 12) gwnaeth plant o ysgolion y Sir gymryd rhan yn ‘Hydref Heini’ gyda Menter Cwm Gwendraeth. Mae’r Fenter yn cynnal Hydref Heini pob blwyddyn.
Ym Mharc Y Scarlets cynhaliodd yr digwyddiad, ac chafodd pawb hwyl a sbri gyda amrywiaeth o weithgareddau i bawb.
Yn ychwanegi themâu cadw’n heini ac bwyta’n iach, roedd yna stondinau efo’r Urdd, Gwasanaeth Tan, Dechrau’n Deg, Bongo’s Rhythm Shack a Chymunedau Cyntaf.
Cafodd y plant siawns i greu pypedau ei hunain a chael ei lluniau efo Mr Urdd. Roedd gweithgareddau i cadw’n heini efo pêl-droed, dawnsio a ymarfer corff. Cafodd y plant amser i chwarae ychydig o gerddoriaeth gyda gweithdy Bongo’s Rhythm Shack.
Dywedodd Elliw James o’r Menter am yr digwyddiad: “Yn hapus iawn ar sut aeth y digwyddiad. Dros 500 o blant yn bresennol, felly, roedd y lle yn llawn bwrlwm. Roedd y plant i gyd i weld fel bod nhw’n mwynhau, o oedran 2 hyd at 5. Heini a Tudur Phillips yn brysur iawn gyda’r plant yn ogystal a nifer o weithgareddau arall. Mae pawb yn Menter Cwm Gwendraeth Elli yn edrych mlaen at ‘Hydref Heini’ blwyddyn nesaf yn barod!”
Add Comment