Home » Hwyl Nadolig gyda Nigel Owens

Hwyl Nadolig gyda Nigel Owens

screen-shot-2017-01-05-at-09-24-00MAE’R ANRHEGION wedi eu lapio, y twrci wedi’i stwffio, a’r gwin poeth yn llifo. Felly, does dim ar ôl i’w wneud nawr ond eistedd, rhoi’ch traed lan a mwynhau llond hosan o hwyl ac adloniant ar Noswyl Nadolig.

Y dyfarnwr a’r cyflwynydd Nigel Owens sydd wrth y llyw yn y rhaglen Hosan Nadolig Nigel ar S4C, 24 Rhagfyr am 9.00. Mae hon yn rhaglen sy’n cynnig ‘bach o bopeth’; canu, sgwrsio, chwerthin a thynnu coes – adloniant ar gyfer y teulu oll i’w fwynhau gyda’i gilydd.

Meddai Nigel Owens, “Bydd pob math o gerddoriaeth yn y rhaglen – o Mei Gwynedd yn perfformio ei gân Nadolig newydd, i’r gantores Alys Williams a’r tenor Wynne Evans yn rhoi slant eu hunain ar rai o’n caneuon Nadoligaidd mwyaf adnabyddus. A bydd un gwestai yn siŵr o greu hafoc ar y set – ci enwoca’ Cymru, Jac Russell.”

Y seren ar y goeden fydd perfformiad arbennig gan y cerddor a chanwr byd enwog o The Alarm, Mike Peters, gyda Chôr Waun Ddyfal.

Mae’n siŵr y byddwch chi’n chwerthin yn uchel yn Hosan Nadolig Nigel wrth i’r cyflwynydd direidus chwarae pranc ar rai o wynebau cyfarwydd Cymru. Sut y bydd y gyflwynwraig Heledd Cynwal yn ymateb i’w anrheg Nadolig annisgwyl? Sut y bydd Wynne Evans yn dygymod â sialens stiwdio Nigel? A fyddan nhw’n ymuno yn hwyl yr ŵyl, neu a fydd yna hunllef ar Noswyl Nadolig?!

Yn ffodus i Nigel, dydy e erioed wedi derbyn anrheg hunllefus yn ei hosan ar fore Nadolig. “Mae pob anrheg dwi’n ei chael yn anrheg sy’n werth ei chael, it’s the thought that counts. Wrth fynd yn hŷn dwi’n derbyn llai o anrhegion, felly dwi’n ddiolchgar iawn am unrhyw beth rwy’n ei gael!”

Mewn gwirionedd, yr anrheg orau i Nigel yw’r cyfle i fwynhau cwmni ei deulu a’i ffrindiau dros gyfnod y Nadolig.

“Mae pawb mor brysur gydol flwyddyn, mae’n anodd dod o hyd i’r amser i fod gyda’r teulu. Mae’r Nadolig hefyd yn gyfle i weld pobl fydda i ddim wedi eu gweld drwy’r flwyddyn, am fod pawb yn dueddol o ddod adre dros yr Ŵyl. Mae rhywbeth cynnes iawn am y Nadolig, ac mae’n braf cael esgus i beidio mynd allan a swatio yn gynnes yn y tŷ.”

Felly, ar ôl yr holl brysurdeb tuag at y diwrnod mawr, casglwch y teulu ynghyd ar y soffa a mwynhewch yr adloniant yng nghwmni Nigel a’i westeion a gweld pa syrpreisys sydd yn Hosan Nadolig Nigel.

Author