Home » Pencampwyr cwis coroni

Pencampwyr cwis coroni

screen-shot-2016-11-01-at-13-45-00MAE MYFYRWYR Cell Pantycelyn wedi penderfynu gohirio protest ynghylch Pantycelyn yn dilyn cyfarfod cadarnhaol gydag uwch swyddogion Prifysgol Aberystwyth heddiw (14 Hydref).

Roedd y myfyrwyr yn pryderu ynghylch yr ansicrwydd am ddyfodol y neuadd.

Meddai Jeff Smith, aelod o’r Gell a fu yn y cyfarfod: “Dwi’n falch ein bod wedi cael addewid o amserlen o’r prif gamau allweddol i ail-agor y neuadd erbyn 2019, a bod swyddogion y brifysgol wedi addo cyfathrebu yn well gyda’r myfyrwyr a’r cyhoedd ar yr adeg dyngedfennol hon. Dyna rywbeth sydd wedi bod ar goll – a thynnu sylw at hynny oedd y bwriad yn y brotest roedden ni wedi ei threfnu yn ystod diwrnod agored y Brifysgol yfory (15/10).”

Meddai Manon Elin, a fu hefyd yn cynrychioli’r Gell yn y cyfarfod: “Rydyn ni’n teimlo fod y cyfarfod wedi bod yn un buddiol iawn, gyda sicrwydd fod Pantycelyn ymhlith tair prif flaenoriaeth cyllido’r Brifysgol. Bydd cyfle gan y myfyrwyr newydd y flwyddyn nesaf i fyw yn neuadd Pantycelyn yn ystod eu trydedd flwyddyn, felly gobeithiwn y bydd y sicrwydd yma yn arwain at gynnydd yn nifer y myfyrwyr fydd yn dod i brofi cymuned Gymraeg y Brifysgol ym Mhantycelyn. Fyddwn ni ddim yn cynnal unrhyw ddigwyddiad yfory felly, ond byddwn ni’n parhau i gadw llygad ar y Brifysgol i sicrhau eu bod yn cadw at yr amserlen.”

Author