Home » Prifysgol yn ennill gwobr Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu

Prifysgol yn ennill gwobr Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu

Y Brifysgol ddiwylliant o ddysgu personol

MAE PRIFYSGOL Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi croesawu canlyniad ei chais ar gyfer Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (FfRhA) a gyhoeddwyd Dydd Iau (22 Meh).

Mae’r FfRhA yn gynllun ar gyfer cydnabod rhagoriaeth addysgu sy’n ychwanegu at y gofynion ansawdd cenedlaethol presennol ar gyfer prifysgolion, colegau a darparwyr addysg uwch. Datblygwyd y Fframwaith gan Adran Addysg Lloegr ac er bod polisi addysg uwch wedi cael ei ddatganoli gall darparwyr yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wirfoddoli ar ei chyfer.

Dyfarnodd panel o arbenigwyr annibynnol fod Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn darparu addysgu, dysgu a chanlyniadau ar gyfer ei myfyrwyr sy’n bodloni gofynion ansawdd cenedlaethol trylwyr ar gyfer addysg uwch yn y DU.

Trwy ddyfarnu Gwobr Efydd nodwyd yn benodol fod gan y Brifysgol ddiwylliant o ddysgu personol, mewn dosbarthiadau bach, sydd â’r bwriad o sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu cefnogi’n effeithiol ac yn cael eu herio i wireddu’u llawn botensial.

Yn ychwanegol, nododd y panel ymglymiad staff a chyflogwyr lleol ynghyd â chyrff proffesiynol perthnasol mewn dylunio cyrsiau, gan gynnwys rhaglenni dysgu seiliedig ar waith, a hefyd bod addysg Cyfrwng Cymraeg a’r Gymraeg yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd sy’n cefnogi, ymestyn a herio corff y myfyrwyr yn y Brifysgol.

Dywedodd Dr Mirjam Plantinga, Pro Is-Ganghellor Cysylltiol Profiad y Myfyrwyr “Rydyn ni’n falch bod y panel wedi cydnabod lefel dda o foddhad myfyrwyr o ran cefnogaeth academaidd, asesu ac adborth. Mae ein pwyslais cryf ar ddysgu personol, dosbarthiadau bach a chymorth myfyrwyr wedi cael eu cydnabod eleni yn y Baromedr Myfyrwyr, Arolwg Profiad Myfyrwyr Times Higher a Whatuni. Gyda ffocws ar ymgysylltiad â chyflogwyr a’n diwylliant nodedig, mae canlyniad y Fframwaith Rhagoriaeth yn adlewyrchu’n bositif ar y gwerthoedd craidd sy’n diffinio profiad myfyrwyr y Drindod Dewi Sant”.

Ychwanegodd Yr Athro Simon Haslett, Pro-Is Ganghellor Rhyngwladol ac Ymgyfoethogi yn y Brifysgol “Roedd y Brifysgol yn falch o gyflwyno cais ar gyfer y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu oherwydd bu’n broses werthfawr ar ôl cyfnod o uno a rhoddodd y cyfle inni ystyried ein harferion presennol ac yn enwedig ein systemau o fesur effaith y cyfoeth o weithgareddau a mentrau addysgu a dysgu rydym yn ymwneud â hwy”.

Ychwanegodd Yr Athro Medwin Hughes, DL, Is- Ganghellor: “Mae addysgu rhagorol yn greiddiol i genhadaeth a gwerthoedd y Brifysgol a gwnaethpwyd cynnydd sylweddol ers yr uno yn 2012 i ddatblygu rhaglenni arloesol, trawsnewid ein campysau ac ymgyfoethogi profiad dysgu ein myfyrwyr yn systematig. Edrychwn ymlaen at gyfloed yn y dyfodol i arddangos y ffyrdd mae’r Brifysgol yn parhau i ddarparu addysgu ysgogol o safon uchel ac i gefnogi bob myfyriwr i lwyddo, o ran eu gwobrau academaidd ac o ran y cyflogaeth neu’r astudiaeth bellach sy’n dilyn hynny.”

Author