HIRAETHU am wefr sain ein hanthem genedlaethol ar ddiwrnod gemau rhyngwladol?
Dyma’ch cyfle i wneud iawn amdano! Gwahoddir pawb ar draws y wlad i sefyll ar drothwy’r drws, yn yr ardd, ar glos y fferm neu ble bynnag, i ganu Hen Wlad fy Nhadau am 12.00 ddydd Llun nesaf, Mawrth 1af, Dydd Gŵyl Dewi.

“Mae’r gwaharddiad ar ganu cymunedol mewn eglwysi a chapeli, a’r terasau tawel ar feysydd rygbi a phêl-droed gwag, wedi ychwanegu at ddiflastod y pandemig yma yng Nghymru – Gwlad y Gân,” meddai Gareth John, Maer Tref Caerfyrddin.
“Ar Fawrth 1af rydym yn gwahodd pobl i sefyll a chanu Hen Wlad fy Nhadau, nid yn unig i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ond hefyd i daro nodyn heriol y byddwn yn goresgyn y feirws ofnadwy hwn. Anogodd Dewi ni i ‘wneud y pethau bychain.’ Drwy wneud y peth bach hwn rydym yn dangos bod ein cenedl yn wynebu’r gwanwyn a’n rhyddhad o gaethiwed yr haint gyda hyder a phenderfyniad newydd. Mae hefyd yn beth bach i ddangos ein gwerthfawrogiad o’r pethau mawr sy’n cael eu cyflawni gan ein holl weithwyr allweddol dewr ac ymroddedig yn ystod y pandemig hwn.”
“Gadewch iddo fod yn arwydd na fydd Gwlad y Gân yn cael ei thawelu. Os na allwch ganu, chwaraewch yr anthem ar ddyfais sain. Wedi’r cyfan, dyma’r anthem orau yn y byd yn ein barn ddiduedd ni!”
Codwch hwyl gyda fersiwn Band Chwyth Symffonig Caerfyrddin a Ffrindiau, a recordiwyd yn benodol ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi 2021: https://youtu.be/ZMRlEm4glu0
Digwyddiad: 12.00 ar Fawrth 1af
Lleoliad: Ble bynnag yr ydych.
Dyma un o nifer fawr o ddigwyddiadau amrywiol Tref Caerfyrddin i ddathlu ein nawddsant a phob peth Cymreig: https://www.facebook.com/Dathliadau-Gŵyl-Ddewi-Caerfyrddin-Carmarthen-St-Davids-Celebrations-285602548773603
Add Comment